Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Medi 2014

 

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad

 

Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.    Mae'r adroddiad yn argymell diwygiadau i Reol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad. Mae'r newidiadau y cytunodd y Pwyllgor Busnes arnynt i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynnig ar gyfer Rheol Sefydlog newydd i'w weld yn Atodiad B.

Cefndir

 

3.        Ar 20 Mai, trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ynghylch craffu ar ddeddfwriaeth, gan gynnwys a fyddai angen unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog. Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried ymhellach y darpariaethau yn Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Memoranda Esboniadol diwygiedig, a'r amser rhwng y cyfnodau diwygio terfynol a Chyfnod 4.

4.        Ar 1 Gorffennaf, trafododd y Pwyllgor Busnes gynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 am y rhesymau canlynol:

·         ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod sy'n gyfrifol osod Memorandwm Esboniadol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2, ac ar ôl Cyfnod 3 os yw Bil i gael ei ystyried yn y Cyfnod Adrodd, oni bai bod y pwyllgor perthnasol neu'r Cynulliad yn cytuno fel arall, ac;

·         i wrthdroi'r dybiaeth bresennol mai symud ar unwaith o'r cyfnod diwygio terfynol i Gyfnod 4 yw'r sefyllfa ddiofyn.

 

5.    Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau ar y cynigion ac i'w trafod ymhellach ar 15 Gorffennaf. Yn y cyfarfod ar 15 Gorffennaf, cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i'r cynigion i newid Rheol Sefydlog 26.

 

Y cynigion ar gyfer newid y Rheolau Sefydlog

 

Memoranda Esboniadol diwygiedig

 

6.        Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w gwneud yn ofynnol i'r Aelod sy'n gyfrifol osod Memorandwm Esboniadol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2, ac ar ôl Cyfnod 3 os yw Bil i gael ei ystyried yn y Cyfnod Adrodd, oni bai bod y pwyllgor perthnasol neu'r Cynulliad yn cytuno fel arall.

 

7.        Ar hyn o bryd, mae'r Rheolau Sefydlog yn darparu, os bydd darpariaethau Bil wedi cael eu newid yn sylweddol ar ôl Cyfnod 2, y caiff y pwyllgor perthnasol ofyn i'r Aelod sy'n gyfrifol osod Memorandwm Esboniadol diwygiedig, cyn Cyfnod 3, i gymryd i ystyriaeth newidiadau a wnaed ar ôl Cyfnod 2.  Mae'r cyfrifoldeb ar y pwyllgor i ofyn bod Memorandwm Esboniadol diwygiedig yn cael ei osod, ac mae'r cais yn cael ei wneud yn y rhan fwyaf o achosion.  Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r Cynulliad, pe byddai'n cytuno i ystyried Bil yn y Cyfnod Adrodd, i ofyn am Femorandwm Esboniadol diwygiedig cyn trafodion y Cyfnod Adrodd i ystyried newidiadau a wnaed ar ôl Cyfnod 3.

 

8.        Effaith y cynigion yn Atodiad A yw diwygio Rheolau Sefydlog 26.27 a 26.28 i'w gwneud yn ofynnol paratoi Memorandwm Esboniadol newydd os caiff Bil ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd ar ôl Cyfnod 2, oni bai bod y pwyllgor yn penderfynu nad yw hynny'n angenrheidiol. Mae hyn yn wahanol i'r ddarpariaeth bresennol lle nad oes angen Memorandwm Esboniadol newydd oni bai bod newid sylweddol, ac os bydd y pwyllgor perthnasol yn gofyn am hynny. Hefyd, cynigir mewnosod Rheol Sefydlog newydd 26.46A, i'w gwneud yn ofynnol i Femorandwm Esboniadol newydd gael ei osod os caiff Bil ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3, ac os bydd y Cynulliad yn cytuno i ystyried gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd.

 

Amser rhwng y cyfnod diwygio terfynol a Chyfnod 4

 

9.        Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i wrthdroi'r dybiaeth bresennol mai symud ar unwaith i Gyfnod 4 yw'r sefyllfa ddiofyn.

 

10.     Ar hyn o bryd, os yw trafodion Cyfnod 4 yn cael eu cynnal yn syth ar ôl y cyfnod diwygio terfynol, mae testun y Bil a dderbynnir neu a wrthodir gan y Cynulliad yn amodol ar gynnwys y newidiadau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfnod diwygio terfynol, ac unrhyw gywiriadau argraffu.  Felly, nid yw'r Aelodau yn cael cyfle i drafod testun terfynol Bil cyn pleidleisio yng Nghyfnod 4.

 

11.     Mae'r dulliau sydd ar gael i'r Aelod sy'n gyfrifol i ddatrys unrhyw wallau a nodir yn dilyn cyfnodau diwygio, megis y defnydd o Gyfnod 3 Pellach neu Gyfnod Adrodd Pellach, hefyd yn cael eu diystyru drwy symud ar unwaith i Gyfnod 4.  Byddai cyflwyno saib rhwng y cyfnod diwygio terfynol a Chyfnod 4 hefyd yn lliniaru'r risg gweithdrefnol i Fil pe na byddai gwelliant - yn anfwriadol - yn cael ei alw.  Ar gyfer y rhan fwyaf o Filiau, ni chaiff camau diwygio ychwanegol eu cynllunio, ond os na chaiff Cyfnod 4 ei drefnu yn union ar ôl y cyfnod diwygio terfynol arfaethedig, mae mwy o amser a hyblygrwydd i'r Aelod sy'n gyfrifol ystyried a ddylid ceisio cyfnod diwygio ychwanegol.

 

12.     Er mwyn gwrthdroi'r dybiaeth bresennol mai symud ar unwaith i Gyfnod 4 yw'r sefyllfa ddiofyn, cynigir diwygiadau, yn Atodiad A, i gyflwyno Rheolau Sefydlog newydd 26.47 a 26.48.

 

13.     Byddai'r Rheol Sefydlog 26.47 newydd yn caniatáu i unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i basio Bil, ond mae'n rhwystro'r cynnig rhag cael ei ystyried hyd nes bydd o leiaf pum niwrnod gwaith wedi mynd heibio ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3 neu'r Cyfnod Adrodd. Gallai'r cynnig gael ei gyflwyno ar unrhyw adeg hyd at y diwrnod gwaith cyn iddo gael ei drafod, a byddai'n ddarostyngedig i'r gofynion arferol ar gyfer Rheolau Sefydlog o ran amserlennu a dogfennau ategol ac ati.

 

14.     Ar yr un pryd, mae'r Rheol Sefydlog 26.48 newydd yn darparu mecanwaith lle gall Cyfnod 4 ddilyn Cyfnod 3 ar unwaith lle bo hynny'n briodol. Byddai hyn yn golygu y caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gyflwyno cynnig heb hysbysiad bod y Bil yn cael ei basio.

 

15.     Effaith y newidiadau arfaethedig yw mai’r sefyllfa ddiofyn yw y bydd o leiaf wythnos rhwng trafodion Cyfnod 3/Cyfnod Adrodd a thrafodion Cyfnod 4, a bod Cyfnod 4 yn digwydd ar gynnig a gyflwynwyd, ond y gellid cyflwyno cynnig Cyfnod 4 heb hysbysiad yn union ar ôl Cyfnod 3/Cyfnod Adrodd gyda chytundeb y Llywydd.

 

16.     Cedwir y darpariaethau presennol yn y Rheolau Sefydlog, sef na cheir diwygio cynigion o dan reolau sefydlog 26.47 a 26.48, ac na cheir gwneud cynnig i basio Bil oni fydd testun y Bil ar gael yn ddwyieithog.

 

Cam gweithredu

17. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar 16 Medi 2014, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynnig fel y'i nodir yn Atodiad B.


Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau'r Cynulliad

Cyfnod 2: Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor

26.27 Os caiff Bil ei ddiwygio yn nhrafodion Cyfnod 2, i fewnosod adran neu atodlen, neu i newid yn sylweddol ar unrhyw ddarpariaeth bresennol, caiff y pwyllgor sy’n ystyried trafodion Cyfnod 2 ofyn rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol amdano baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y pwyllgor sy'n ystyried trafodion Cyfnod 2 yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

 

Effaith y newid drafft fyddai ei gwneud yn ofynnol paratoi Memorandwm Esboniadol newydd os caiff Bil ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd ar ôl Cyfnod 2, oni bai bod y pwyllgor yn penderfynu nad yw hynny'n angenrheidiol. Mae hyn yn wahanol i'r ddarpariaeth bresennol lle nad oes angen Memorandwm Esboniadol newydd oni bai bod newid sylweddol, ac os bydd y pwyllgor perthnasol yn gofyn am hynny.

 

26.28 Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig y gofynnir amdano a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26.27 gael ei osod o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion Cyfnod 3.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

 

Mae hyn yn ganlyniadol i'r uchod. Ni fydd angen Memoranda Esboniadol diwygiedig mwyach.

Y Cyfnod Adrodd

 

26.46A Os caiff Bil ei ddiwygio yn nhrafodion Cyfnod 3, ac os bydd y Cynulliad yn cytuno i ystyried gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd, rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y Cynulliad yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

Rheol Sefydlog newydd

 

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Femorandwm Esboniadol newydd gael ei osod os caiff y Bil ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3, ac os bydd y Cynulliad yn cytuno i ystyried gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd.

 

Pe byddai'r newidiadau yn rhai bach, gallai'r Cynulliad benderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig. Gallai hyn ddigwydd ar gynnig heb hysbysiad a wnaed gan yr Aelod sy’n gyfrifol ar ddiwedd Cyfnod 3, neu un a gyflwynir yn ddiweddarach ac a drafodir rhwng Cyfnod 3 a’r Cyfnod Adrodd.

 

26.46B Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26.46A gael ei osod o leiaf pum niwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion y Cyfnod Adrodd.

 

Rheol Sefydlog newydd

 

Mae hon yn cynnwys yr un ddarpariaeth ag yn Rheol Sefydlog 26.28

Cyfnod 4: Y Cyfnod Terfynol

 

26.47  Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.50, yn union ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd os y’u cynhaliwyd, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Bil yn cael ei basio.

Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i basio Bil, ac ni chaiff ei ystyried hyd nes bydd o leiaf pum niwrnod gwaith wedi mynd heibio ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd, os cawsant eu cynnal.

Disodli'r Rheol Sefydlog hon

 

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn caniatáu i unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i basio Bil, ond mae'n rhwystro rhag ystyried y cynnig hyd nes bydd o leiaf pum niwrnod gwaith wedi mynd heibio ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3.

 

Dyma'r drefn arferol i'r Cynulliad gytuno i basio Bil, er y gall hefyd wneud cynnig heb hysbysiad o dan Reol Sefydlog 26.48A.

26.47A Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26.47 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.

 

Mewnosod Rheol Sefydlog newydd

 

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn caniatáu y caiff cynnig bod Bil yn cael ei basio ei gyflwyno y diwrnod cyn iddo gael ei drafod, yn hytrach na'r pum niwrnod arferol, er mwyn caniatáu amser i destun terfynol y Bil fod ar gael a thrwy hynny gydymffurfio â Rheol Sefydlog 12.25.

 

26.48  Os na wneir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.47, neu os gwneir cynnig o dan y Rheol Sefydlog honno ond ni chymerir penderfyniad arno, rhaid i’r llywodraeth neu’r Pwyllgor Busnes benderfynu (o dan Reol Sefydlog 11.12 neu 11.7(ii) yn ôl fel y digwydd) pryd y caiff y cynnig bod y Bil yn cael ei basio ei ystyried yn y cyfarfod llawn.

Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.50, yn union ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd os y’u cynhaliwyd, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad bod y Bil yn cael ei basio.

Disodli'r Rheol Sefydlog

 

Mae'r drafft o'r Rheol Sefydlog 26.48 newydd yn darparu mecanwaith lle gall Cyfnod 4 ddilyn Cyfnod 3 neu'r Cyfnod Adrodd ar unwaith. Byddai hyn yn golygu bod Aelod yn cyflwyno cynnig heb hysbysiad bod y Bil yn cael ei basio. Fel ar gyfer eitemau eraill o fusnes heb hysbysiad o dan Reol Sefydlog 12.16, byddai angen cytundeb y Llywydd cyn y gellid y gwneud y cynnig.

 

Effaith y newidiadau arfaethedig yw y byddai o leiaf wythnos, fel mater o drefn, rhwng trafodion Cyfnod 3 a Chyfnod 4, ond y gellid gwneud cynnig Cyfnod 4 yn union ar ôl Cyfnod 3 neu'r Cyfnod Adrodd gyda chytundeb y Llywydd. 

 

26.49  Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil gael ei basio.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

 

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

26.50  Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

 

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

 

26.51 Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod 4.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

 

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. Mae'n atal defnyddio cynnig trefniadol i gyfeirio Bil yn ôl at bwyllgor yn nhrafodion terfynol Cyfnod 4.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Atodiad B

Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad

Cyfnod 2: Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor

26.27 Os caiff Bil ei ddiwygio yn nhrafodion Cyfnod 2 rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol amdano baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y pwyllgor sy'n ystyried trafodion Cyfnod 2 yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

 

26.28 Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26.27 gael ei osod o leiaf pum niwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion Cyfnod 3.

 

Y Cyfnod Adrodd

 

26.46A Os caiff Bil ei ddiwygio yn nhrafodion Cyfnod 3, ac os bydd y Cynulliad yn cytuno i ystyried gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd, rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y Cynulliad yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

 

26.46B Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26.46A gael ei osod o leiaf pum niwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion y Cyfnod Adrodd.

 

Cyfnod 4: Y Cyfnod Terfynol

26.47  Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i basio Bil, ac ni chaiff ei ystyried hyd nes bydd o leiaf pum niwrnod gwaith wedi mynd heibio ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd, os cawsant eu cynnal.

26.47A Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26.47 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.

26.48  Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.50, yn union ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd os y’u cynhaliwyd, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad bod y Bil yn cael ei basio.

26.49  Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil gael ei basio.

26.50  Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

26.51 Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod 4.